Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
HSC(4)-03-11 papur 3
CRAFFU AR GYLLIDEB 2012/13
Diben
1. Un o swyddogaethau’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol (“y Pwyllgor”) yw craffu ar gyllideb flynyddol Llywodraeth Cymru. Mae portffolio’r Pwyllgor yn cynnwys tri maes o fewn y gyllideb, sef iechyd, iechyd meddwl a gwasanaethau cymdeithasol.
2. Mae’r papur hwn yn ceisio barn y Pwyllgor ar y dull arfaethedig o graffu ar y gyllideb.
Y broses o graffu ar y gyllideb
3. Y Pwyllgor Cyllid yw’r unig bwyllgor a all argymell newidiadau i gyllideb y Llywodraeth.[1] Fodd bynnag, gall unrhyw bwyllgor arall ystyried y gyllideb ddrafft a chyflwyno adroddiad i’r Pwyllgor Cyllid.[2] Fel arfer, caiff hyn ei wneud mewn adroddiad pwyllgor neu lythyr at y Pwyllgor Cyllid.
4. Lansiodd y Pwyllgor Cyllid ymgynghoriad cyhoeddus ar y gyllideb yn ystod yr haf. Roedd yr alwad am dystiolaeth[3] yn un eang, ac aeth i amrywiaeth eang o randdeiliaid, gan gynnwys sefydliadau iechyd, iechyd meddwl a gwasanaethau cymdeithasol.
5. Mae’r amser sydd ar gael i’r Pwyllgor graffu ar y gyllideb yn gyfyngedig:
4 Hydref |
Llywodraeth yn gosod y gyllideb ddrafft |
12 Hydref 20 Hydref |
Cyfarfodydd pwyllgor ar gael i gymryd tystiolaeth ar y gyllideb. |
26 Hydref |
Rhaid gosod adroddiadau pwyllgor erbyn y dyddiad hwn er mwyn i’r Pwyllgor Cyllid ystyried barn pwyllgorau yn ei adroddiad ar y gyllideb ddrafft. |
8 Tachwedd |
Y dyddiad olaf ar gyfer cyhoeddi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar y gyllideb ddrafft. |
Craffu ar waith y Gweinidog
6. Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol ar gael i ddod i gyfarfod y Pwyllgor ar 20 Hydref i graffu ar y gyllideb.
Trafodaeth
7. Gofynnir i’r Pwyllgor ystyried cynnig i gynnal sesiwn drafod gyda chynrychiolwyr o bob un o’r tri maes o fewn y gyllideb. Disgwylir mai sesiwn fer fyddai hon (tua 1 awr) ar 12 Hydref. Diben y drafodaeth fyddai canfod y prif faterion i’w hystyried wrth graffu ar y gyllideb ddrafft a llywio’r gwaith o graffu ar waith y Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog yr wythnos ganlynol.
8. Gan mai diben y sesiwn hon fyddai casglu gwybodaeth, ni fyddai nodiadau briffio manwl yn cael eu darparu. Byddai’r Aelodau yn cael eu hannog i archwilio’r meysydd hynny gyda’r tystion sydd angen eu harchwilio ymhellach gyda’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog.
9. Oherwydd natur y sesiwn, efallai y byddai’r Aelodau yn teimlo mai cyrff ymbarél fyddai yn y sefyllfa orau i roi trosolwg o’r prif faterion sydd angen eu harchwilio gyda’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog. Yn ogystal â’r cyrff ymbarél, efallai yr hoffai’r pwyllgor ystyried gwahodd tyst a allai roi trosolwg cyffredinol ar y sefyllfa ariannol sy’n wynebu’r sector, er enghraifft economegydd iechyd neu academydd.
10. Gallai’r tystion posibl gynnwys:
- Conffederasiwn y GIG
- Y Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol
- Y Bwrdd Rhaglen Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl Oedolion
- Academydd
Craffu ar y gyllideb yn y dyfodol
11. Mae craffu ar y gyllideb yn un o gyfrifoldebau parhaus y Pwyllgor, a gellir gwneud mwy o waith ar hyn drwy gydol y flwyddyn. Er mwyn cynorthwyo’r Pwyllgor i wneud mwy o waith craffu, efallai yr hoffai’r Aelodau ystyried canfod ‘cynghorwyr arbenigol’ a allai helpu i graffu ar y gyllideb yn y dyfodol.[4] Byddai hyn yn helpu i leddfu’r anawster o ran recriwtio tystion sy’n meddu ar y cydbwysedd cywir o arbenigedd ym maes cyllid a pholisi ac nad ydynt eisoes yn darparu cymorth o fewn Cymru.
12. Gofynnir i’r Aelodau awgrymu darpar ymgeiswyr i gynorthwyo yn y gwaith o graffu ar y gyllideb yn y dyfodol. Gallai’r bobl hyn fod yn academyddion / arbenigwyr o’r tu allan i Gymru, a fydd yn cytuno i roi cyngor i’r pwyllgor ar gyfer cylch cyllideb 2013-14.
Camau gweithredu ar gyfer y Pwyllgor
13. Gwahoddir y Pwyllgor i:
- gytuno ar y ffordd o graffu ar gyllid ar gyfer 2012-13 (paragraffau 6 – 10); a
- ystyried ymhellach y dull o graffu ar y gyllideb yn y dyfodol (paragraffau 11 a 12)
[1] Rheol Sefydlog 20.11
[2] Rheol Sefydlog 20.10
[3] http://senedd.cynulliadcymru.org/documents/s2247/Galwad%20am%20-%20wybodaeth%20Cynigion %20cyllideb%20ddrafft%20Llywodraeth%20Cymru%20ar%20gyfer%202012-13.pdf
[4] Mae Rheol Sefydlog 17.55 yn caniatau i bwyllgorau benodi cynghorwyr i roi cyngor arbenigol.